Swyddog Lleoliadau Gwaith (12061)
This vacancy is published by an accredited employer with authorized corporate payroll and standard compliance adherence.
Transatlantic Cost of Living & Purchasing Power Benchmark
Position Overview & Specifications
Swydd Wag Fewnol / Allanol
Cyf: 12061
Teitl y Swydd: Swyddog Lleoliadau Gwaith
Contract: Parhaol, Llawn Amser
Oriau: 37
Cyflog: £22,891 - £24,923
Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Swyddog Lleoliadau Gwaith o fewn adran Gyrfau Caerdydd a'r Fro. Bydd y swydd hon wedi’i lleoli ar wahanol leoliadau.
Bydd y cyfrifoldebau'n cynnwys:
Cysylltu â Phenaethiaid Adrannau a Thiwtoriaid Cwrs i ganfod cyfleoedd ac anghenion profiad gwaith y dysgwyr yn seiliedig ar y Rhaglenni Maes Dysgu (LAP) a threfnu amserlen profiad gwaith.- Sicrhau bod anghenion profiad gwaith dysgwyr yn cael eu cysylltu â’u dilyniant yn y dyfodol gyda lleoliadau gyda sefydliadau perthnasol.
- Gweithio gydag asiantaethau eraill i sicrhau arfer gorau ar gyfer cyfleoedd profiad gwaith e.e. cwmnïoedd gyrfaoedd lleol, JCP, Ymddiriedolaeth y Tywysog a darparwyr eraill, a rhwydweithio er mwyn deall yr holl agendau cyflogadwyedd yn llawn.
- Ymgysylltu â chyflogwyr i hyrwyddo CAVC a datblygu partneriaethau gwaith cynaliadwy sy’n cynhyrchu cyfleoedd profiad gwaith ystyrlon ar gyfer dysgwyr.
- Sicrhau bod cytundeb ffurfiol yn bodoli rhwng y darparwr profiad gwaith a’r Coleg.
- Monitro ac asesu addasrwydd lleoliadau gwaith a’u llwyddiant cyffredinol fel rhan o’r rhaglen profiad gwaith, gwneud addasiadau lle bo angen a rhoi adborth i Arweinydd y Tîm Gyrfaoedd mewn modd amserol.
- Byddai sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro yn unig. Mae’r coleg yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn y Saesneg. Os ydym yn eich gwahodd i gyfweliad, rhowch wybod i ni os hoffech i ni gynnal y cyfweliad a’r broses asesu yn y Gymraeg.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau wedi'u cwblhau yw 06/06/2023 yr 12:00pm.
I gael gwybod mwy neu i wneud cais ewch i www.cavc.ac.uk neu cysylltwch â'r Adran Adnoddau Dynol drwy ffonio 02920250311 neu anfonwch e-bost at recruitment@cavc.ac.uk.
Mae'r holl swyddi gwag yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac ni fydd cyflogaeth yn dechrau heb wiriad DBS cyfredol, dilys. Mae hwn yn gontract cytundebol y mae'n rhaid iddo fod ar waith cyn bod eich cyflogaeth yn dechrau. Mae gweithdrefn y Coleg ar gyfer Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.
Mae'r rhain yn gontractau cytundebol y mae'n rhaid iddynt fod ar waith cyn y gall eich cyflogaeth ddechrau.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn gyflogwr cadarnhaol sy'n rhan o'r cynllun hyderus o ran anabledd.
Candidate Selection & Onboarding Process
Application & Resume Screening
Submit your tailored CV/Resume directly to the talent acquisition portal.
Technical & Competency Interviews
Virtual interviews with the hiring manager and multidisciplinary team.
Formal Offer & Benefits Negotiation
Written agreement outlining compensation, equity, retirement vesting, and relocation allowances.
Onboarding & Corporate Integration
Equipment provisioning, team orientation, and commencement of duties.
Similar Opportunities in United Kingdom View All UK Roles →
Principal Data Analytics Specialist
Senior Clinical Diagnostic Radiographer
Werkstudent Mobile Development (m/w/d)
Apply for this Position
Receive high-paying Professional Services openings directly to your inbox.
Direct Candidate Application
Swyddog Lleoliadau Gwaith (12061) • Cardiff and Vale College
Encrypting candidate credentials...
Connecting to official employer gateway...
Application Successfully Queued!
Your application for Swyddog Lleoliadau Gwaith (12061) has been received by Cardiff and Vale College.